Logo Ysgol Gynradd Edern Primary School

Ysgol Edern

Coeden Edern

061023-slideshow1

Welsh Language Charter - Gwynedd Primary Schools

(translation coming soon...)

Ein Gweledigaeth: Ymrwymwn i ddatblygu disgyblion sydd yn gadael yr ysgol hon yn gweithio, chwarae a chymdeithasu yn hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ymfalchio yn eu hetifeddiaeth Gymreig.

Ein Gweledigaeth

Gweledigaeth Ysgol Edern yw y bydd pob plentyn yn siarad Cymraeg graenus ym mhob agwedd o’i fywyd ac y byddant yn ymfalchio yn iaith, diwylliant a thraddodiadau Cymreig.

Ein Nodau at Y Wobr Aur

  • Mae dysgwyr/hwyrddyfodiaid yn cyfathrebu yn y Gymraeg yn rhugl o fewn blwyddyn.
  • Pob plentyn a rhieni di-Gymraeg yn cyrraedd o leiaf Deilliant 5 yn y Cyfnod Sylfaen a Lefel 4 yn CA2.
  • Mae’r plant yn hyrwyddo’r Gymraeg yn gymdeithasol ac yn mynnu cael ei defnyddio.
  • Mae’r ysgol yn sicrhau cefnogaeth a chyfranogiad rhieni i weithgareddau allgyrsiol yr ysgol a’r gymuned leol ac yn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn ystod y gweithgareddau hynny.
  • Bydd yr ysgol yn hyrwyddo gwersi Cymraeg i rieni.
  • Mae safle we’r ysgol a chylchlythyrau yn hyrwyddo ac yn dathlu’r Siarter Iaith.
  • Mae’r Llywodraethwyr yn sicrhau fod pob agwedd o fywyd bob dydd yr ysgol yn Gymraeg a Chymreig.
  • Mae’r gweithlu’n cynllunio’n briodol ar gyfer addysgu a darparu ar gyfer Datblygiad yr Iaith Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen ac yn sicrhau trochi plant di-gymraeg i fod yn rhugl erbyn diwedd Blwyddyn Derbyn.
  • Mae’r gweithlu yn sicrhau fod pob agwedd o fywyd bob dydd yr ysgol yn Gymraeg a Chymreig gan hyrwyddo defnydd geirfa, idiomau a dywediadau lleol ar lafar ac yn eu gwaith ysgrifenedig.
  • Bydd yr ysgol yn cynnal hyfforddiant caffael iaith, modelu iaith dda a gloywi iaith gan godi ymwybyddiaeth geirfa, idiomau a dywediadau lleol i’w defnyddio o ddydd i ddydd

 

Cynllun Gweithredu Siarter Iaith Gymraeg AUR Ysgol Edern (Medi 2018 - Mehefin 2019) - Cliciwch yma i'w lawrlwytho fel pdf

 

Siarter Iaith Gwynedd

Logo Ysgolion Iach Gwynedd

logo Ysgol Werdd Gwynedd

logo Cyngor Gwynedd Council

logo Ysgol Masnach Deg Fairtrade School

Contact Details

Headteacher: Mr Ilan Williams

Phone: (01758) 720272

Email: ilan.williams@edern.ysgoliongwynedd.cymru

Address: Ysgol Edern, Ffordd Y Rhos, Edern, Pwllheli, Gwynedd. LL53 8YW

Ysgol Edern ar Facebook Ysgol Edern ar Twitter

Privacy Notice.
© 2024 Copyright Ysgol Gynradd Edern Primary School. All Rights Reserved. Website by Delwedd.